Rwyf yn ymateb i’r ymgynghoriad ar y cynnydd sydd wedi’i wneud yn dilyn gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Rwyf yn croesawu’r Ddeddf gan ei bod yn darparu fframwaith cyfreithiol a fydd yn galluogi’r rheini yr effeithir arnynt i gael y cymorth mwyaf priodol i’w helpu mewn sefyllfaoedd anodd iawn.

Gyda golwg ar y cwestiwn ynghylch a yw’r rhai sy’n goroesi camdriniaeth yn dechrau profi ymatebion gwell gan awdurdodau cyhoeddus o ganlyniad i’r Ddeddf, credaf y byddai sefydlu mecanwaith cenedlaethol yn gymorth mawr i gael gwybod am eu profiadau.

Mae gwaith y Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig (CADD) yn hanfodol o ran helpu i ymgysylltu â’r bobl hynny sy’n profi effaith y mathau hyn o gam-drin a’u cynorthwyo. Bydd gan y CADD fwy o ddealltwriaeth hefyd o effeithiolrwydd awdurdodau cyhoeddus.

Rwyf yn ymwybodol bod SafeLives yn rhedeg y rhaglen ‘Insights’, sy’n gallu pennu lle mae cymorth wedi bod yn effeithiol wrth helpu i wneud goroeswyr yn ddiogel. Mae hefyd yn helpu i adnabod problemau gweithredol lle mae angen gwelliant. Fodd bynnag, dim ond mewn nifer bach o ardaloedd yng Nghymru y mae’r system hon ar waith.

Drwy fy nghysylltiad â phobl hŷn sy’n profi Trais, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, rwyf yn ymwybodol bod nifer mawr ohonynt sydd heb ystyried neu nodi’r ffaith bod gwasanaethau arbenigol wedi’u sefydlu i gwrdd â’u hanghenion. O ganlyniad i hyn, byddant yn parhau i brofi cam-drin cyson.

Rwyf yn disgwyl felly y ceir ymgyrch genedlaethol sy’n cydnabod bod pobl hŷn yn dioddef trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac yn dangos bod gwasanaethau cymorth ar gael sy’n gallu eu helpu.

Mae problem gynyddol yn peri gofid mewn perthynas â phobl hŷn sy’n ddioddefwyr mewn Adolygiadau Dynladdiadau Domestig. Mae data diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod 28 o’r bobl hŷn (60+ oed) a oedd yn ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu lladd gan aelod o’u teulu. Roedd hyn yn 24% o’r holl ddioddefwyr. Er hynny, roedd nifer y digwyddiadau cam-drin domestig a gofnodwyd a oedd yn ymwneud â phobl hŷn yn llai na 4% o’r holl ddigwyddiadau a gofnodwyd.

Er fy mod yn cydnabod ac yn croesawu’r cynnydd sylweddol a gafwyd ledled Cymru, credaf fod rhai meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd.

Roedd fy adroddiad ‘Troseddau yn Erbyn, a Cham-Drin, Pobl Hŷn yng Nghymru - Cael Cymorth a Chyfiawnder: Cydweithio’, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2015, yn cynnig ffyrdd gwell o gydweithio rhwng asiantaethau i atal pobl hŷn rhag syrthio drwy’r ‘bylchau’ a geir rhwng gwasanaethau ar hyn o bryd.

Fel Comisiynydd, mae’r disgwyliad sydd gennyf y bydd y strategaethau lleol a gaiff eu datblygu yn gallu adrodd ar y camau y mae ac y bydd Cyrff Cyhoeddus ac eraill yn eu cymryd i ddelio â’r bylchau a nodwyd yn fy adroddiad yn un hollbwysig. Os na fydd hyn wedi’i adlewyrchu yn y strategaethau lleol, byddaf yn disgwyl i Weinidogion ddefnyddio eu pwerau i ddyroddi canllawiau statudol a gosod dyletswydd i ddilyn y canllawiau hynny.

Rwyf yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon o gymorth i chi. Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir,

 

 

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru